Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

31 Ionawr 2022

SL(6)129 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae adran 91 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i landlord, o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na 7 mlynedd, sicrhau bod yr annedd yn addas i bobl fyw ynddi. Mae adran 92 yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord gadw'r annedd mewn cyflwr da.

Mae adran 94(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn addas i bobl fyw ynddi ai peidio, ac mae adran 94(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi materion ac amgylchiadau a allai godi oherwydd methiant landlord i gadw'r annedd mewn cyflwr da. Mae adran 94(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod gofynion ar landlordiaid ac i ragnodi, os na chydymffurfir â'r gofynion hynny, bod yr annedd i'w thrin fel pe na bai'n addas i bobl fyw ynddi.

Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn rhagnodi'r materion a'r amgylchiadau y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn addas i bobl fyw ynddi ai peidio.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rheoliadau 5 i 8 yn gymwys mewn perthynas â chontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na 7 mlynedd, ac sy'n ymgorffori adran 91 o'r Ddeddf fel un o delerau'r contract.

Mae rheoliad 4 yn cymhwyso rheoliadau 5 i 8 i'r un mathau o gontract meddiannaeth â rheoliad 3.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn gosod gofynion ar landlord at ddibenion atal unrhyw faterion neu amgylchiadau rhag codi a allai beri nad yw annedd yn addas i bobl fyw ynddi.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i larymau mwg a larymau carbon monocsid, sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn, fod yn bresennol mewn annedd.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gosodiadau gwasanaeth trydanol mewn annedd gael eu harchwilio gan berson cymwysedig fesul ysbaid o 5 mlynedd neu lai; a bod copi o'r adroddiad ar gyflwr yn cael ei roi i ddeiliad y contract. Os caiff gwaith ei wneud ar osodiadau gwasanaeth trydanol annedd rhwng archwiliadau diogelwch trydanol, rhaid i'r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifendig bod y gwaith wedi'i wneud.

Pan fo landlord yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliad 5 neu 6, mae'r annedd i'w thrin fel pe na bai'n addas i bobl fyw ynddi hyd nes y bydd y landlord wedi cywiro’r methiant. Os bydd y methiant yn digwydd eto, bydd yr annedd, unwaith eto, i’w thrin fel pe na bai’n addas i bobl fyw ynddi hyd nes y caiff y methiant ei gywiro.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch amser ychwanegol i landlordiaid i sicrhau eu bod yn cydymffurfio o dan denantiaethau a thrwyddedau presennol a ddaw yn gontractau meddiannaeth o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 8 yn galluogi landlordiaid i ddibynnu ar adroddiadau ar gyflwr trydanol a gafwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: 07 Ionawr 2022

Fe’u gosodwyd ar: 12 Ionawr 2022

Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1

 

SL(6)136 – Rheoliadau Addysg (Cymhwystra ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau i ddarparu’r sail ar gyfer y system o gymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig yn y DU, a myfyrwyr eraill sy’n astudio yng Nghymru. Mae'r rheoliadau cyllid myfyrwyr yn cynnwys meini prawf cymhwystra sy’n pennu y gall grwpiau penodol fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, statws ffioedd cartref a’r cap ar ffioedd dysgu.

Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyriwr cymwys fynychu Athrofa’r Brifysgol Ewropeaidd. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2014, drwy ddarparu drafft wedi’i ail-fformatio mewn perthynas â’r diffiniad o “un o ddinasyddion y DU” a chywiro’r diffiniad o “bartner gwarchodedig”.

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr  sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Awst 2018.  Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn Rheoliadau 2018 a wnaed mewn rheoliadau diwygio blaenorol, er mwyn sicrhau nad yw gwladolion Gwyddelig (a oedd yn byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir ar ddiwedd y cyfnod pontio) yn gallu gwneud cais am gymorth cynhaliaeth ond eu bod yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth at ffioedd, statws ffioedd cartref a'r cap ffioedd dysgu.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998

Fe’u gwnaed ar: 17 Ionawr 2022

Fe’u gosodwyd ar: 19 Ionawr 2022

Yn dod i rym ar: 11 Chwefror 2022